Cafodd Jeremy ei eni a’i fagu ym Mhontarddulais ac fel siaradwr Cymraeg, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe a Choleg Newydd, Rhydychen lle bu’n astudio’r gyfraith.

Yn syth ar ôl graddio, bu’n dysgu’r gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl.

Yn ddiweddarach, bu Jeremy yn gweithio fel cyfreithiwr yn Llundain i ddechrau, ac yna dal swyddi cyfreithiol a masnachol uwch mewn busnesau cyfryngau gan gynnwys ITV a chyda stiwdio rhwydwaith teledu a ffilm Americanaidd, NBC Universal.

Wedi dychwelyd i fyw yng Nghymru, sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn y sectorau darlledu a digidol.

Roedd Jeremy tan yn ddiweddar yn ymddiriedolwr ac ysgrifennydd yr elusen cyfiawnder cymdeithasol Sefydliad Bevan.

Mae ganddo hefyd brofiad fel mentor ieuenctid ac fel ymgynghorydd mewn canolfannau cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim.

Cafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer etholaeth Castell-nedd ym mis Mai 2016, fel yr ymgeisydd y blaid Lafur a Chydweithredol, yn dilyn ymddeoliad Gwenda Thomas AC. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys datblygu economaidd a chymunedol, ac addysg a sgiliau.

Mae’n eistedd ar Bwyllgor yr Economi, Sgiliau ac Isadeiledd, Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a’r Pwyllgor Materion Allanol. Mae’n cadeirio’r grŵp ACau y Blaid Gydweithredol.

Ef yw cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gydweithfeydd a’r Grŵp Trawsbleidiol ar yr Iaith Gymraeg. Mae’n aelod o’r grwpiau trawsbleidiol ar Ddur, STEM, Ynni Cynaliadwy, Iechyd Meddwl a Chymru Ryngwladol.

Mae Jeremy yn byw yn Alltwen yn etholaeth Castell-nedd ac yn mwynhau ffilm, darllen, coginio, heicio a beicio, a dilyn rygbi yn lleol.

Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search