Os oes rhywbeth yr ydych yn pryderu amdano yn eich cymuned neu rywbeth rydych am ei wneud i wella eich hardal, gallwch gymryd rhan yn ein rhaglen Pencampwyr Castell-nedd, sy’n cefnogi pobl leol i hyrwyddo pethau y maent eisiau ar gyfer y gymuned.

Trwy Pencampwyr Castell-nedd, gallwch gael mwy o wybodaeth am bwy allai fod yn gefnogwyr neu bartneriaid defnyddiol, dysgu sut i gael pobl eraill I gymeryd rhan, sut i ymgyrchu neu drefnu gweithgareddau, neu gael gwybod mwy ynghylch a oes sefydliadau a all helpu gyda chyllid.

Rhowch ganiad i ni os ydych chi eisiau siarad mwy am y rhaglen Pencampwyr Castell-nedd.

Ar y llaw arall, efallai y byddwch yn edrych i wirfoddoli ar gyfer sefydliad lleol. Mae miloedd o bobl yng Nghastell-nedd yn gwneud hynny yn reolaidd. Mae bron yn sicr y bydd sefydliad a fyddai’n croesawu eich cefnogaeth ac yn gwneud rhywbeth y gallech fod â diddordeb mewn cefnogi. Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli yn gyffredinol edrychwch ar CGG Castell-nedd Port Talbot.

Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search