Swyddi a’r Economi: Castell-nedd Ffyniannus
Mae economi leol sy’n ffynnu yn bwysig i bawb. Os ydyn ni’n byw yng Nghastell-nedd neu’r cyffiniau, neu ym Mhontardawe neu un o’r pedwar Cwm sy’n rhan o etholaeth Castell-nedd, rydym am i’n hardal fod yn rhywle y mae pobl am ddod ac aros i fyw, i ddysgu, i weithio, i siopa ac i redeg eu busnesau. Rydym am werthu rhanbarth Castell-nedd i Gymru, i’r DU ac i’r byd – ac rydym am helpu ein busnesau presennol i dyfu os ydynt am wneud hynny, ac i ffynnu a chyflogi pobl leol.
Fforwm Economaidd Ardal Castell-nedd
Mae Fforwm Economaidd Ardal Castell-nedd yn fenter gan Jeremy i hwyluso trafodaeth ar y materion economaidd mawr sy’n wynebu Castell-nedd. Cynhaliwyd y Fforwm cyntaf ym mis Rhagfyr 2016, gyda 45 o gynrychiolwyr gan gynnwys masnachwyr, busnesau lleol, colegau a darparwyr hyfforddiant sgiliau, undebau, prifysgolion a rhanddeiliaid pwysig eraill o bob cwr o etholaeth Castell-nedd a’r rhanbarth ehangach. Agorwyd y digwyddiad gan Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Bydd y materion a godwyd yn y fforwm yn sail i adroddiad ar ddatblygiad Strategaeth Economaidd newydd Llywodraeth Cymru a Thasglu’r Cymoedd.
Adroddiad – Creating tomorrow’s economy, today
Digwyddiadau yn y dyfodol
Yn dilyn llwyddiant y fforwm, bydd Jeremy yn gweithio gyda phartneriaid i hwyluso digwyddiadau yn y dyfodol er mwyn trafod yr hyn sydd ei angen arnom i roi’r cyfle gorau i ardal Castell-nedd gryfhau ein heconomi leol a’r farchnad swyddi leol mewn byd sy’n newid. Byddwn yn hysbysebu digwyddiadau’r dyfodol ar y wefan hon. Cysylltwch os ydych am gymryd rhan.