Mae gan Gastell-nedd a’r cyffiniau adnoddau naturiol gwych. Boed yn y cymoedd, ar ben y bryniau, y camlesi, y parciau neu’r afonydd, mae natur ar garreg ein drws yng Nghastell-nedd. Mae hyn yn ffordd dda o ddenu ymwelwyr a thwristiaid – ond mae hefyd yn wych fel lle i ni sy’n byw yma i’w fwynhau – boed am dipyn o saib, rhywle i’r plant i gael hwyl neu ffordd i gadw yn heini yn cerdded trwy ein tirwedd hardd.

Mae ein hadnoddau naturiol yn rhad ac am ddim ac, gan amlaf, yn weddol hygyrch. Mae’n bwysig ein bod yn cadw fel hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a’u gwella ar ein cyfer i gyd.

Byddaf yn gweithio i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu ein treftadaeth naturiol yn lleol, felly os ydych yn perthyn i grŵp lleol – p’un ai grŵp tyfu cymunedol, clirio llwybrau, heicio, neu grŵp cadwraeth ac yr hoffech siarad am gydweithio – cysylltwch, os gwelwch yn dda.

Bioamrywiaeth leol.

Eleni, mae nifer o ACau wedi cytuno i hyrwyddo rhywogaethau mewn perygl i geisio gwneud yn siŵr nad ydym yn colli mwy o rifau – ac i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gallwn ei wneud i helpu. Mae’n amlwg yn wych ar gyfer yr anifeiliaid, ond hefyd mae’n wirioneddol bwysig i’n bioamrywiaeth ac i iechyd ein hamgylchedd lleol.

Mae rhai ACau wedi cael palod neu eog. Cytunais i hyrwyddo’r Llyffant Du. Efallai ei fod ychydig yn llai egsotig – ond mae gennym gymunedau Llyffant Du yng Nghastell-nedd sydd angen ein help. Yn y gwanwyn byddaf allan gyda grwpiau amgylcheddol lleol i geisio helpu llyffantod i groesi ffyrdd i gyrraedd mannau bridio yn ddiogel. Cadwch eich llygaid ar agor ar eu cyfer ac os ydych chi ar Twitter a byddwch yn gweld Llyffant Du yn eich gardd, trydarwch lun i mi ohono #TweetMyToad.

Gallwch chi helpu i wneud eich gerddi yn fwy croesawgar ar eu cyfer – maent yn caru pentyrrau dail, tomennu compost, glaswellt garw a gwelyau planhigion. Ac maent yn wych ar gyfer cadw gwlithod dan reolaeth.

Tyfu a rhannu.

Yn olaf, os oes gennych ychydig ddarn o dir y tu allan i’ch tŷ yr ydych yn ei chael yn anodd edrych ar ei ôl, neu os oes gennych ddiddordeb mewn garddio neu dyfu bwyd, ond heb unrhyw le i wneud hynny, cysylltwch â ni.

Gyda’n prosiect Plough / Share rydym yn anelu at baru pobl sydd am dyfu bwyd (fel arfer yn llawer rhatach na’i brynu) ond heb unrhyw le i wneud hynny, gyda phobl sydd ag ychydig o ardd sbâr, ond efallai heb yr amser, iechyd neu awydd i dyfu bwyd – ond maent yn hapus i rywun arall ei wneud yn eu gardd ac yna i rannu’r cnydau rhyngddynt.

Cysylltwch am fwy o fanylion am Plough/Share.

Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search